Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Mawrth 2017
Amser: 14.00 -
16.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3913
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Alan Brace, Llywodraeth Cymru Andrew Evans, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Dr Jean White, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Dave Thomas - Swyddfa Archwilio Cymru: |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cofnod y Trafodion
Gweld Cofnod y Trafodion
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG; Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol; yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.
3.2 Cytunodd Dr Goodall i gynnal gwerthusiad ar nifer y wardiau sy'n defnyddio peiriannau gwerthu awtomatig ar gyfer meddyginiaethau a bydd yn ceisio egluro tensiynau yn y system ar yr un pryd.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i gymryd rhagor o dystiolaeth gan y byrddau iechyd yn nhymor yr haf.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Gohiriodd y Pwyllgor y drafodaeth ynghylch yr adroddiad drafft tan y cyfarfod nesaf.
7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddiweddariad llafar ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16.
8.1 Cafodd y Pwyllgor friff ynghylch adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar ynghylch Cyllid Awdurdodau Lleol ar gyfer Gwasanaethau Trydydd Sector.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn amlinellu pryderon ynghylch caffael priodol ar gyfer gwasanaethau trydydd sector. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn ar ôl cael ei ymateb.
9.1 Cafodd y Pwyllgor friff am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad diweddar ynghylch Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned 2015-16.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn mynegi ei bryder am wendidau o ran llywodraethu a rheolaeth ariannol ar draws y sector a'i wahodd i roi sylwadau ar ganfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn ar ôl cael ei ymateb.
10.1 Cafodd y Pwyllgor friff ynghylch adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei bapur trafod am yr heriau llywodraethu sy'n cael eu peri gan wasanaethau a ddarperir yn anuniongyrchol, ac a ariennir gan y cyhoedd yng Nghymru.
10.2 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nhymor yr hydref.